Ffynnon wyt o bob tosturi,
Nid oes gwybod
faint dy râs;
Dy haelioni sydd yn cynnal
Pobpeth dan yr awyr lâs.
Dal fy ysbryd gwàn i fyny,
Edrych ar y bryniau mawr,
Sydd yn pwyso ar fy nghalon,
Ac sy'n ceisio'm dodi lawr.
Mae ei glustiau yn agored
I bob rhyw ddrylliedig lef;
Ac mae'r drom ochenaid glwyfus
Yn cyrhaeddyd ato Ef.
Pan b'o t'wyllwch ac anobaith
Yn amgylchu'm llwybrau cudd,
Fe ddaw 'mlaen,
fe dry y cyfnos
Can goleuach hanner dydd.
Maith drugaredd a gwirionedd,
A'r tiriondeb mwya'i maes,
Sy' fel heulwen haf yn ddysglaer,
Trwy holl ranau pur ei ras.
Boed fy nhafod fyth tra fyddwyf
Gerdded ar yr anthem hyn,
Cariad pur yn dyoddef marw
Tros bechadur ar y bryn.
William Williams 1717-91
Tonau [8787]: [Hefyd mesur: 8787D] gwelir: Deued dyddiau o bob cymmysg Dyro olwg ar dy haeddiant Gwlad o d'wllwch wyf yn trigo Mae ei glustiau yn agored Pa gyfnewidiadau bynag Tan y don yr wyf yn llefain |
A fount art thou of every mercy,
There is no knowing
the extent of thy grace,
Thy goodness is upholding
Every thing under the blue sky.
Hold my weak spirit up,
Look on the great hills,
Which are weighing on my heart,
And trying to put me down.
His ears are open
To every kind of broken cry;
And heavy wounded groans are
Reaching Him.
Whenever the darkness and hopelessness be
Surrounding my hidden paths,
He will come forward,
he will turn the twilight
A hundred-fold brighter than midday.
Vast mercy and truth,
And the greatest tenderness there is,
Are like the sunshine of summer shining,
Through all the pure parts of his grace.
May my tongue be, while ever I am
Walking, on this anthem,
Pure love suffering death
For a sinner on the hill.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|